<?xml version="1.0" encoding="utf-8"?>
<document>

Status:

This is the original version (as it was originally enacted).

46Y tramgwydd o wneud datganiad anwir neu gamarweiniol

This sectionnoteType=Explanatory Notes has no associated

(1)Mae person yn cyflawni tramgwydd os yw, mewn cais i gofrestru o dan y Rhan hon, yn gwneud datganiad y mae'n gwybod ei fod yn anwir neu'n gamarweiniol mewn manylyn perthnasol.

(2)Mae person sy'n euog o dramgwydd o dan is-adran (1) yn atebol ar gollfarn ddiannod i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.

Back to top

</document>
<?xml version="1.0" encoding="utf-8"?>
<document>

Adnoddau YouTube

Mae’n gyflym ac yn hawdd i wylio rhai o’n fideos YouTube sy’n ymwneud ag amrywiaeth o destunau a allai fod o gymorth wrth i chi baratoi ar gyfer astudio nawr ac yn y dyfodol.

Gwyliwch a gwrandewch ar gyngor arbenigol gan ein Tîm Denu Myfyrwyr a myfyrwyr sydd eisoes yn astudio yma ym Mhrifysgol Aberystwyth ar amrywiol agweddau fydd o gymorth i’ch astudiaethau presennol a’ch dyheadau ar gyfer y dyfodol.

Gair o gyngor gan ein Swyddogion Recriwtio

Yn amrywio o ddewis y cwrs iawn i gwblhau’r datganiad personol.Darganfod mwy

StraeonAber

O ddewis cwrs i wybodaeth am ddatganiadau personol gwrandewch ar brofiadau ein myfyrwyr.Darganfod mwy

Ein Cyrsiau

Cyfres o fideos byr gan ein myfyrwyr ar eu profiadau yn eu pynciau.Darganfod mwy

</document>
<?xml version="1.0" encoding="utf-8"?>
<document>

Prin iawn yw’r hyn rydym yn ei wybod am brofiadau o dementia a’r heriau ychwanegol sy’n wynebu cymunedau sydd â sawl hunaniaeth sy’n gysylltiedig â chefndir ethnig, rhywioldeb ac anabledd.
Yn y sesiwn hon byddwch yn clywed am brosiect a oedd â’r nod o fynd i’r afael â’r bwlch sylweddol hwn wrth ymgysylltu a deall anghenion cymunedau amrywiol (Bengali, Groegaidd, Somalaidd, Cymraeg ei hiaith, LGBT, Byddar Diwylliannol, byddar, â nam ar eu golwg a gyda Syndrom Down) o bobl y mae dementia yn effeithio arnynt a’u gofalwyr yng Nghymru.
Yn fwy penodol, bydd Dr Sofia Vougioukalou, Cymrawd Ymchwil yn Y Lab, Prifysgol Caerdydd yn trafod y fframwaith ehangach o anghydraddoldebau iechyd mewn gofal dementia gyda ffocws ar iaith a micro-ymosodiadau.
Bydd Suzanne Duval BEM, rheolwr Gwasanaethau Iechyd Meddwl Pobl Ddu a Lleiafrifoedd Ethnig yn Diverse Cymru yn trafod ei hymgysylltiad polisi ar ofal dementia ac ethnigrwydd yng Nghymru.
Bydd Anne Rees, cyn weithiwr cymdeithasol plant a swyddog gwybodaeth amrywiaeth yng Nghymdeithas Alzheimer Cymru yn trafod effaith deddfwriaeth cydraddoldeb ar ofal dementia.

Cyflwynwyr: Sofia Vougioukalou, Prifysgol Caerdydd, Suzanne Duval from Diverse Cymru and Anne Mears-Rees from Promo Cymru.

Dadlwythwch adroddiad Dewch inni Drafod Dementia

Adnoddau Ychwanegol

Dementia issues concerning BAME communities

Poster arwyddion cynnar o dementia:

Wrth imi gerdded y filter olaf – Casgliad o gyfweliadau yw’r Adroddiad hwn, gyda theuluoedd a all dystio drwy brofiad yr effaith ddinistriol y mae dementia’n ei gael ar eu teuluoedd

Gofalu am Rwyunâ Dementia

</document>
<?xml version="1.0" encoding="utf-8"?>
<document>

Yn ymateb i’r newyddion fod Ynys Môn yn ail ar restr o brif fannau gwyliau’r DU, dywedodd AC Môn Rhun ap Iorwerth fod hyn yn brawf pellach o bwysigrwydd y diwydiant twristiaeth i economi’r ynys

Darganfu adroddiad diweddar gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, wrth edrych ar y gwariant cyfartalog fesul diwrnod o ymweliad mewn lleoliadau gwyliau yn y DU, mai yn Ynys Môn y gwnaethpwyd y gwariant mwyaf ond un, gyda £48.92.
Yn gyntaf oedd y rhestr oedd Caerdydd, a ellir wrth gwrs ei gyrraedd mewn 40 munud o Faes Awyr Môn!

Dywedodd yr Aelod Cynulliad lleol Rhun ap Iorwerth:

“Mae’r ystadegau diweddaraf yma yn dangos unwaith eto pa mor bwysig yw’r diwydiant twristiaeth i Ynys Môn.
Maent hefyd yn deyrnged i’r gwaith caled a wneir gan fusnesau twristiaeth lleol i ddenu ymwelwyr yma a’u hannog nhw i wario yma.